Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Communities, Equality and Local Government Committee
|
|
||
|
|
|
|
|
Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA
31 Mai 2012 |
Annwyl gyfaill
Ymchwiliad i bolisi amgylchedd hanesyddol Llywodraeth
Cymru
Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i bolisi
amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Er mwyn ei gynorthwyo gyda’i ymchwiliad,
byddai’r Pwyllgor yn croesawu clywed eich barn ar y pwnc
hwn.
Diben yr ymchwiliad
Yn 2014-15, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil Treftadaeth. O ganlyniad, ar hyn o bryd mae’n ymgynghori â rhanddeiliaid gyda’r bwriad o gyflwyno Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol yn ystod hydref 2012. Mae hyn yn debygol o fod yn sail i ragor o werthusiadau ac ymgynghoriadau yn arwain at gyflwyno’r Bil.
Mae’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth hefyd wedi sefydlu gweithgor i ystyried sut y gallai swyddogaethau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru gael eu huno â swyddogaethau sefydliadau eraill, gan gynnwys Cadw. Mae disgwyl i’r grŵp gyflwyno adroddiad erbyn mis Gorffennaf 2012.
Diben yr ymchwiliad hwn, felly, yw rhoi cyfle i’r Pwyllgor gyfrannu at y ddwy broses uchod ac i wneud argymhellion yn ôl yr angen. Mae’r Pwyllgor yn bwriadu canolbwyntio yn benodol ar gyfeiriad polisi cyffredinol a blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru yn hyn o beth.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
¡ Pa mor briodol a llwyddiannus yw’r systemau presennol a defnyddir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu ac i reoli’r amgylchedd naturiol yng Nghymru?
¡ Pa mor dda y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru (er enghraifft, o ran dehongli, hygyrchedd, denu cynulleidfaoedd newydd a thwristiaeth)?
¡ Pa mor dda y mae’r polisïau ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn cyd-fynd ag amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru (fel adfywio cymunedau)?
¡ Beth fyddai manteision ac anfanteision cyfuno swyddogaethau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru â swyddogaethau sefydliadau eraill, gan gynnwys Cadw?
¡ Pa rôl y mae awdurdodau lleol a sefydliadau yn y trydydd sector yn ei chwarae o ran gweithredu polisi amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru a pha gefnogaeth y maent yn ei chael yn y cyswllt hwn?
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymateb gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o rôl y sefydliad hwnnw.
Croesewir cyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg gan y Pwyllgor, a bydd yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau cyflwyno tystiolaeth lafar maes o law.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig at pwyllgor.CCLIL@cymru.gov.uk
Neu gallwch ysgrifennu at:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylid cyflwyno ymatebion erbyn dydd Gwener 29 Mehefin 2012. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a fydd yn dod i law ar ôl y dyddiad hwn.
Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolion neu sefydliadau hoffai gyfrannu at yr adolygiad. Bydd copi o’r llythyr hwn yn cael ei roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol gyda gwahoddiad agored i gyflwyno barn.
Datgelu gwybodaeth
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Yn gywir
Ann Jones AC
Cadeirydd